Skip to content

Rhaglenni Llywodraeth Cymru

Rhaglenni Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru'n darparu ystod o fentrau i helpu cwmnïau yng Nghymru. Dyma nhw:

ReAct

Rhaglen a ddarperir gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r Cynllun Gweithredu ar Ddiswyddiadau (ReAct) sy’n ariannu hyfforddiant ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru ac yn wynebu diswyddiad. Gall y cynllun hefyd helpu cyflogwyr sy'n lleihau maint eu busnes neu’n chwilio am staff. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun yn y tudalennau ar ReAct ar wefan Llywodraeth Cymru.

GO Wales

Mae'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i'ch helpu i recriwtio a chadw graddedigion. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan GO Wales.

Cymorth Hyblyg i Fusnes

Mae'n darparu cymorth i sefydlu, cynnal a thyfu busnesau yng Nghymru. Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan Cymorth Hyblyg i Fusnes.  

Rhaglen Adnewyddu'r Economi

Sefydlwyd y rhaglen er mwyn sicrhau bod y polisïau a'r strwythurau cywir yn eu lle i adeiladu economi mwy cynaliadwy yn dilyn y dirwasgiad. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth ychwanegol ar gyfer cyflogwyr

Cymorth i wella sgiliau eich pobl er mwyn gwella eich canlyniadau a chael y gorau oddi wrth eich tîm. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.


Dolenni eraill

Bydd y gwefannau isod hefyd yn ddefnyddiol i chi:

Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru

Porthol sy'n darparu mynediad at newyddion, gwybodaeth a deunyddiau ymchwil ar addysg, dysgu, sgiliau a'r farchnad lafur. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru.

Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau

Mae'r Comisiwn hwn yn cynghori ar sut y gall gwell cyflogaeth a sgiliau helpu'r DU i fod ar y blaen drwy’r byd o ran cynhyrchiant, cyflogaeth a chymdeithas gynhwysol. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Comisiwn y DU ar Gyflogaeth a Sgiliau.

Y Ganolfan Byd Gwaith

Gwasanaethau ar gyfer cyflogaeth a sgiliau. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Y Ganolfan Byd Gwaith.