Bywgraffiadau
Bywgraffiadau o Aelodau o Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru
Jeff Cuthbert AC, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau
Cadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru
Wedi iddo gael ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2011, cafodd Jeff ei benodi yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau.
Cyn iddo ymuno â'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2003, Jeff oedd Pennaeth Uned Caffaeliad i Ddiwydiant Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. Gwaith yr uned hon oedd datblygu cymwysterau a safonau galwedigaethol a diwydiannol.
Jeff oedd sylfaenydd y Grŵp Trawsbleidiol ar yr Amgylchedd Adeiledig, y Grŵp Trawsbleidiol ar Fyw'n Iach a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Diabetes, a bu hefyd yn Gadeirydd ar y grwpiau hynny. Roedd ef hefyd yn un o sylfaenwyr a chadeiryddion y Grŵp Trawsbleidiol ar Gwrw a Thafarndai. Yn y Cynulliad diwethaf, bu Jeff yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac eisteddodd hefyd ar y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, y Pwyllgor Menter a Dysgu a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Magwyd Jeff yn Ne Cymru a chafodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd. Mae ganddo radd mewn peirianneg mwyngloddio ac ef oedd Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg y Brifysgol Caerdydd rhwng 1974-1975. Mae'n aelod gweithgar o'r undeb llafur Unite ac mae'n cymryd rhan mewn amryw o brosiectau lleol yng Nghaerffili, yn arbennig fel cadeirydd Pwyllgor Rheoli Canolfan Gymunedol Glowyr Caerffili.
Mae Jeff yn Aelod Corfforaethol o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.
Scott Waddington - Comisiynydd Cymru, Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau
Cafodd Scott ei eni a’i addysgu yng Nghymru cyn mynychu Prifysgol Reading (Gradd mewn Economeg a Chyfrifeg).
Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn y sector lletygarwch, yn benodol yn y maes marchnata diodydd a thafarndai gan weithio gyda busnesau fel Bass, Carlsberg a Century Inns.
Ymunodd â’r bragwr a’r cwmni tafarndai preifat o Gymru, SA Brain fel prif weithredwr yn 2001. Yn dilyn adolygiad o’r strategaeth gorfforaethol, cafodd brand Brains ei ad-drefnu, bu cynnydd yn y buddsoddiad mewn tafarndai a chafodd y busnes dosbarthu diodydd ei ehangu ledled Cymru. Bellach mae gan Brains gyfanswm o 260 o dafarndai yn ogystal â busnes bragu a brandiau sy’n tyfu.
Mae’r datblygiadau yn Brains wedi cael eu cydnabod gan nifer o wobrau gan gynnwys Cwmni Cymreig y Flwyddyn y Western Mail, Bragwr Rhanbarthol y Flwyddyn y Publican, Strategaeth Farchnata’r Flwyddyn yn y Gwobrau Busnes Cenedlaethol, Cwmni Tafarn y Flwyddyn y Publican a Nawdd y Flwyddyn gan Hollis.
Roedd Scott yn Gadeirydd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn ystod 2010 a 2011.
Emma Watkins - Cyfarwyddwr Cymru, CBI Cymru
Emma Watkins yw cyfarwyddwr y CBI yng Nghymru a hi sy’n gyfrifol am reoli cydberthnasau’r CBI gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, gan weithredu fel arweinydd mewn enw i’r CBI yng Nghymru. Hi sy'n gyfrifol am recriwtio a chadw aelodau, ac am ein rhaglen o ddigwyddiadau masnachol.
Mae Emma yn un o gyfarwyddwyr Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru, sydd wedi’i sefydlu er mwyn helpu sefydliadau busnes i weithio gyda’r Cynulliad. Mae hi’n aelod o Grŵp Cynghori ar Fusnes Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cyngor Adnewyddu’r Economi Llywodraeth Cymru, a nifer o gyrff eraill. Mae hi’n golofnydd barn busnes i’r Western Mail ac yn sylwebu ac yn siarad yn rheolaidd yn y cyfryngau.
Mae Emma wedi bod yn gweithio i’r CBI ers 2003 ac, yn ystod yr amser hwnnw, mae hi wedi bod yn bennaeth polisi gwasanaethau cyhoeddus, yn brif gynghorydd ar bolisi yn swyddfa’r CBI ym Mrwsel, ac yn bennaeth polisi i’r CBI yng Nghymru. Cyn ymuno â'r CBI, arferai Emma weithio fel ymchwilydd gwleidyddol i ddau o aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dw Emma yn wreiddiol o Dyddewi, Sir Benfro. Mae ganddi MSc Econ mewn Polisïau Ewropeaidd a BSc Econ mewn Gwleidyddiaeth a Hanes Modern o Brifysgol Caerdydd.
Martin Mansfield - Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
Penodwyd Martin Mansfield yn Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru ym mis Awst 2008. Mae Martin yn chwarae rhan flaenllaw mewn strwythurau partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru gan gynnwys Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a Chyngor Adnewyddu’r Economi.
Mae wedi gweithio ers dros ugain mlynedd ym mudiad yr undebau llafur gan gynnwys Unite a’r GMB. Cyn hynny, bu’n ddarlithydd coleg ac fe’i cyflogwyd ym maes ymchwil anghenion sgiliau. Rhwng 2003 a 2005, gweithiodd ar secondiad fel cynghorydd arbennig ar ddatblygu economaidd i Brif Weinidog Cymru a’r Cabinet.
Mae gan Martin Radd Feistr mewn Cysylltiadau Diwydiannol (gydag Economeg a'r Gyfraith) o Brifysgol Warwick, BA Anrhydedd mewn Hanes a Saesneg a diploma ôl-radd mewn Dulliau Ymchwil Gymhwysol. Cafodd ei eni a'i fagu yn Nowlais, Merthyr Tudful, ac erbyn hyn mae'n byw yng Nghaerffili gyda'i wraig Paula a'u plant, Bethan, Thomas, Rhys a Gareth.
Marcella Maxwell - Cyfarwyddwr Cymru, Working Links
Ymunodd Marcella â Working Links ym mis Mai 2008 fel Cyfarwyddwr Cymru. Cyn ei phenodi, Marcella oedd Prif Weithredwr Chwarae Teg, sefydliad Cymru Gyfan a sefydlwyd i hyrwyddo rôl menywod yn economi Cymru. Bu hefyd, cyn hynny, yn Bennaeth Adran Datblygu Economaidd Cyngor Caerdydd gyda chyfrifoldeb dros bolisi economaidd, datblygu busnes a chyllid Ewropeaidd.
Yn ei swydd bresennol, mae Marcella yn arwain tîm o tua 200 o bobl ac mae’n gyfrifol am gyfeiriad strategol a gweithredol cyffredinol Working Links Cymru, gan gynnwys cyflawni amrywiaeth o gontractau a rhaglenni sy’n ymwneud â chyflogaeth.
Mae Marcella wedi dal swyddi ar amryw o fyrddau, gan gynnwys Cyngor CBI Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac roedd yn aelod o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddiweithdra ymhlith Pobl Ifanc a sefydlwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn 2010.
Iestyn Davies - Pennaeth Materion Allanol, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru
Iestyn Davies yw aelod staff arweiniol y Ffederasiwn Busnesau Bach, sy’n cynrychioli buddiannau mentrau bach a chanolig eu maint yng Nghymru. Mae gan y Ffederasiwn tua 10,000 o aelodau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae’n chwarae rôl weithredol wrth lobïo a dylanwadu ar y llywodraeth yn ogystal â chefnogi ei aelodau gydag amrywiaeth o fanteision busnes.
Mae Iestyn yn arwain tîm o saith o weithwyr amser llawn sy’n cefnogi aelodau’r Ffederasiwn yng Nghymru drwy gyfrwng eu cymdeithasau rhanbarthol a changen. Mae hefyd yn rhoi cymorth uniongyrchol i Mrs Janet Jones, Cadeirydd Uned Polisi Cymru y Ffederasiwn Busnesau Bach.
Graham Edwards - Prif Weithredwr, Wales & West Utilities
Mae gan Graham brofiad helaeth ym maes uwch reolaeth yn y sector cyfleustodau ar ôl rhedeg busnesau dŵr a dosbarthu trydan gyda South Wales Electricity, Hyder ac, yn fwy diweddar, Thames Water. Mae wedi dal uwch swyddi ym maes adnoddau dynol, gweithrediadau a rolau cyfarwyddwr-reolwr gyda chyfrifoldeb llwyr am elw a cholledion.
Cyn ymuno â South Wales Electricity ym 1992, treuliodd Graham flynyddoedd lawer yn y sector gweithgynhyrchu gyda chwmnïau modurol rhyngwladol a nwyddau traul. Treuliodd gyfnod hefyd fel prentis peirianneg strwythurol pan oedd yn ifanc.
Mae gan Graham Radd Feistr mewn Gweinyddu Busnes ac mae'n Gymrawd o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.
Tom Hadley - Gyfarwyddwr Polisi a Gwasanaethau Proffesiynol, Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth
Mae Tom Hadley yn Gyfarwyddwr Polisi a Gwasanaethau Proffesiynol yn y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth. Ei brif rôl yw lobïo swyddogion allweddol y Llywodraeth a’r UE ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â chyflogaeth a’r farchnad lafur. Mae’r gwaith hefyd yn cynnwys tynnu sylw at fentrau’r Cydffederasiwn i hyrwyddo safonau’r diwydiant, gan gynnwys gorfodi Cod Ymarfer Proffesiynol, cynlluniau archwilio a’r Adduned Amrywiaeth a lansiwyd.
Cyn ymuno â’r Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth, treuliodd Tom Hadley chwe blynedd yng Nghydffederasiwn Diwydiant Prydain a chyn hynny bu’n gweithio ar gyfer gwasanaeth ymgynghori recriwtio a datblygu economaidd, MBA Training Research & Development yn Llundain. Ymhlith ei rolau blaenorol mae hyfforddeiaeth yn y Comisiwn Ewropeaidd a gwaith yn adran gyfreithiol fewnol Viviendi, y cwmni rhyngwladol o Ffrainc.
Mae gan Tom Radd Meistr mewn Cyfraith Rhyngwladol ac Ewropeaidd o Brifysgol Assas ym Mharis a Gradd BA yn y Gyfraith o Brifysgol Sussex. Mae Tom hefyd yn chwarae rygbi mewn cynghrair genedlaethol ac mae’n casglu gwinoedd coeth.
Alison Itani - Cyfarwyddwr, Wiltan Ltd
Mae Alison Itani wedi bod yn Gyfarwyddwr Wiltan Limited ers 2005. Fe’i hyfforddwyd yn y lle cyntaf fel nyrs yn Ysbyty John Radcliffe yn Rhydychen a symudodd i Gymru dros 20 mlynedd yn ôl. Ers hynny, mae hi wedi bod yn gweithio ar lefel reolaethol yn y sectorau gofal iechyd, adwerthu a’r cyfryngau.
Ffurfiwyd Wiltan Limited ym 1985 gan ŵr Alison. Cwmni gweithgynhyrchu ydyw â’i ganolfan ym Mhont-y-pŵl ac mae’n cynhyrchu cydrannau i’r diwydiant newidyddion. Pan ddechreuodd, hwn oedd y cwmni lleiaf yn y DU i gynhyrchu’r rhannau hyn ond erbyn hyn, mae’n un o’r prif gyflenwyr. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni yn cyflogi 40 o bobl ac mae wedi ennill sawl gwobr am ei raglenni hyfforddiant a’i ymrwymiad i amrywiaeth.
