Gwybodaeth am WESB
Pwy ydym ni a beth ydym yn ei wneud
Pwy ydym ni?
Dewiswyd aelodau'r Bwrdd oherwydd eu harbenigedd ym maes sgiliau a chyflogaeth yng Nghymru. Ceir cynrychiolwyr o blith cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, undebau llafur, awdurdodau lleol, addysg uwch, addysg bellach a'r sector busnes.
Ein gwaith
Yn ogystal â datblygu polisïau, rydym hefyd yn helpu i'w rhoi ar waith ac yn asesu'r effaith a gânt ar lawr gwlad, ymhlith cyflogwyr ac unigolion sy'n ceisio diogelu eu dyfodol mewn economi newidiol. Mae Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru wedi bod yn ymchwilio ac yn mynegi barn ar y cysylltiadau rhwng wahanol fentrau a rhaglenni'r Llywodraeth o ran ymdrin â'r heriau y mae Cymru'n eu hwynebu ym maes cyflogaeth a sgiliau.
Cyhoeddwyd ein hadroddiad blynyddol cyntaf ar gyfer Gweinidogion Cymru, sef 'Cymru: Gwlad sy'n Gweithio', ym mis Mai 2009. Roedd yn darparu cyngor ar Integreiddio Cyflogaeth a Sgiliau, Addysg Uwch, Buddsoddi mewn Sgiliau a thargedau perfformiad ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau. Cyfrannodd y Bwrdd at yr Uwchgynhadledd Economaidd hefyd.
Eleni, rydym wedi bod yn ymchwilio i ddau faes, sef Cyflogaeth ymhlith Pobl Ifanc a Sgiliau Gweithio, a bydd ein cyngor yn cael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2010 mewn dau adroddiad ar wahân, ynghyd â'n hail adroddiad blynyddol. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio ar wahanol bynciau a darparu cyngor yn ymwneud â Sgiliau Sylfaenol, Addysg Cyfrwng Cymraeg, Addysg Uwch, Gwaith Perfformiad Uchel, Strategaeth ar gyfer y Farchnad Lafur a Chynghorau Sgiliau Sector, ac rydym wedi bod yn adolygu hynt "Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru".
