Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru
Pam ddylwn i gymryd rhan?
I gryfhau eich llais ar faterion pwysig yn y gymuned fusnes yng Nghymru, mae angen i Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru glywed eich pryderon a'ch syniadau ynghylch yr heriau sy'n wynebu busnesau yng Nghymru o ran cyflogaeth a sgiliau.
Rydym yn cyfathrebu'n uniongyrchol â Gweinidogion Cymru ac yn rhoi cyngor iddynt ar y materion sy’n effeithio arnoch chi ym maes cyflogaeth a sgiliau.
Ein gwefan yw'r prif gyfrwng cyfathrebu rhwng y Bwrdd, cyflogwyr a rhanddeiliaid ynghylch y materion a'r pynciau cyfredol sy'n effeithio ar gyflogaeth a sgiliau.
Gallwch hefyd weld ein cyngor a'n hadroddiadau blynyddol i Weinidogion Cymru. Yn ogystal, ceir dolenni i ffynonellau defnyddiol eraill o wybodaeth yn ymwneud â chyflogaeth a sgiliau.
Ein gwaith
Ein nod yw:
- cryfhau llais y cyflogwr o ran sgiliau yng Nghymru;
- helpu Cymru i ddatblygu economi sgiliau uchel sy’n cynnig cyfle i bawb;
- rhoi cyngor arbenigol i Weinidogion Cymru.
Cyhoeddi sy'n cael sylw arbennig
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau WESB 2011
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb bellach i adroddiadau diweddaraf y Bwrdd, 'Sgiliau ar gyfer Swyddi: Blaenoriaethau', 'Gweithio Perfformiad Uchel' a 'Polisïau Sgiliau a’r Iaith Gymraeg’. Croesawyd ein cyngor gan y Gweinidogion a darparwyd ymatebion manwl i’n negeseuon a’n hargymhellion.
Gwybodaeth bellach
I weld gwybodaeth am y farchnad lafur ynghyd ag arolygon sy’n sail i waith Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru (WESB) cliciwch isod:
-
Arolwg o Safbwyntiau Cyflogwyr y DU (2010)
Nod yr arolwg hwn yw darparu tystiolaeth gwbl ddibynadwy ar gyfer llunwyr polisi ynghylch ymwneud a bodlonrwydd cyflogwyr â chymorth y Llywodraeth ar gyfer recriwtio a datblygu’r gweithlu. - Sgiliau ar gyfer Swyddi: Heddiw ac Yfory
Archwiliad Strategol Cenedlaethol Cymru o Sgiliau (2011).
